XIV International Congress of Celtic Studies

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size

Rhaghysbysiad

Y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol a gynhelir bob pedair blynedd yw’r gynhadledd academaidd fwyaf yn y maes. Mae’n denu ysgolheigion sy’n ymddiddori yng ngwahanol faesydd Astudiaethau Celtaidd. Trefnir y Bedwaredd Gynhadledd ar Ddeg gan amryw brifysgolion a sefydliadau diwylliannol yng nghyffiniau Dulyn dan nawdd Ysgol Astudiaethau Celtaidd Sefydliad Uwchefrydiau Dulyn.

Yn ystod y Gyngres, darllenir papurau ar bob agwedd ar ddiwylliant a gwareiddiad Celtaidd o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Ymysg y meysydd sydd wedi denu llawer o ddiddordeb mewn cyngresau blaenorol y mae Llenyddiaeth Ganoloesol a Chyfoes, Chwedloniaeth, Archaeoleg, Hanes, Llên Gwerin, Celf a Cherddoriaeth. Mae rhychwant eang y Gyngres yn ei gwneud yn fforwm deniadol a phwysig i bawb sy’n gweithio mewn meysydd academaidd eraill ond y mae eu diddordebau’n cyffwrdd o bryd i’w gilydd â byd Astudiaethau Celtaidd.

Yn ogystal ag amserlen digwyddiadau academaidd, darperir rhaglen gymdeithasol ac adloniant lawn. Cynnwys y rhain wibdeithiau, derbyniadau a digwyddiadau diwylliannol. Ceir sawl arddangosfa hefyd yn ystod y Gyngres.

Mae aelodaeth o’r Gyngres yn agored i bawb a chanddynt ddiddordeb mewn Astudiaethau Celtaidd. Croesewir yn arbennig ysgolheigion iau a’r sawl na fu mewn Cyngres Astudiaethau Celtaidd o’r blaen.

Cynhwysir dyddiadau cofrestru ar y wefan hon a diwedderir gwybodaeth ynghylch cofrestru ac ynghylch cynnig papur yn y Gyngres yn rheolaidd. Gellir hefyd danysgrifio i’r rhestr gyfathrebu y cyhoeddir pob hysbysiad newydd arni trwy anfon neges e-bost wag at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

Mae Maynooth yn dref brifysgol tua 15 milltir i’r gorllewin o Ddulyn. Sefydlwyd y brifysgol hon yn 1795 a hi yw prifysgol ail hynaf Iwerddon. Cynnwys y campws nifer fawr o adeiladau o gyfnod ei sefydlu. Mae cysylltiadau rheilffordd, ffordd a bws ardderchog rhwng Maynooth a Dulyn. Darperir llety ar gyfer y Cynadleddwyr yn y brifysgol. Argymhellir i ddarpar gynadleddwyr achub y cyfle i gofrestru’n gynnar gan y bydd hyn yn sicrhau llety gyda gostyngiad ar y campws ei hun ynghyd â ffi gofrestru arbennig.

Cyhoeddir manylion pellach ynghylch y Gyngres ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan hon.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Gyngres.

 

Yn mynychu

Important dates

Early Registration: 1 Sep 2010 to 30 Nov 2010

Registration: 1 Dec 2010 to 31 Mar 2011

Offer of Paper: 1 Aug 2010 to 30 Nov 2010


GaeilgeCymraegEnglishGàidhligBrezhonegFrançaisNederlandsDeutschCatalanEspañolItalianoРусский

Newyddion Diweddaraf